Priodasau

Cartref > Priodasau

P'un a yw'ch priodas mewn eglwys, gwesty neu babell yng nghanol cae, bydd y pedwarawd yn darparu'r awyrgylch addas ar gyfer eich diwrnod arbennig:

Chwarae cerddoriaeth gefndir wedi'i theilwra a'i threfnu ar gyfer yr achlysur.

Er enghraifft, cerddoriaeth Baróc, sy'n ysbrydoli fel "Music for the Royal Fireworks" gan Handel neu'r "Canon" urddasol gan Pachelbel. Rydym yn chware'r gerddoriaeth o'r gyfres deledu boblogaidd "Bridgerton" yn rheolaidd. Gall y pedwarawd chwarae cerddoriaeth i siwtio'r naws ar gyfer eich priodas.

Edrychwch ar ein tudalen repertoire i gael sampl o'r darnau a'r caneuon rydyn ni'n eu chwarae. Os oes cân arbennig nad oes gennym, yna gellir ei threfnu am ffi fach.

Mae'r pedwarawd yn hapus i chwarae tu allan a'r unig bethau y byddai eu hangen arnom yw pedair cadair ac amddiffyniad digonol rhag y tywydd. Mae pecynnau priodas ar gael ar gais.

Digwyddiadau i ddod:

Dewch i'n gweld ni'n chwarae ar Ffair Briodas Hydref 13eg ym Mhlas Maenan, Conwy.