Snowdonia String Quartet Available for events across North Wales

More information

Welcome to Snowdonia String Quartet

Sefydlwyd Pedwarawd Llinynnol Eryri gan Katherine Betteridge a Chris Atherton yn 2003. Rydym yn gerddorion cymwys, proffesiynol, sydd wedi bod yn cyd-berfformio ers blynyddoedd lawer ac yn gyfarwydd ag addasu i amrywiaeth o achlysuron cymdeithasol pwysig.

Mae gennym repertoire helaeth o gerddoriaeth sy'n cwmpasu sbectrwm eang o genres cerddorol.

Digwyddiadau nodedig ar gyfer y pedwarawd fu:

  • Cyrraedd rhif dau yn rhestr fer categori Adloniant ar gyfer Gogledd Cymru yng Ngwobrau Priodas Genedlaethol Cymru yn 2011.
  • Yn cyfeilio i Bryn Fôn yn yr Eisteddfod Genedlaethol Dinbych yn 2013. Darlledwyd hwn ar S4C.
  • Perfformiadau corfforaethol gyda Ruby Wax yn siaradwr gwadd.
  •  Perfformiadau yn RAF Fali a fynychwyd gan Dywysog a Thywysoges Cymru.

Test

Priodasau

Y pedwarawd yn sefyll gydag offerynnau
Y pedwarawd yn cerdded gydag offerynnau
Quartettu allan i Talhenbont Hall

Boed eich priodas mewn eglwys, gwesty, neu babell yng nghanol cae, bydd y pedwarawd yn creu’r awyrgylch addas ar gyfer eich diwrnod arbennig: Chwarae cerddoriaeth gefndir sydd wedi'i theilwra a'i threfnu ar gyfer yr achlysur.

Gallwn chwarae drwy’r dydd, neu ran o'r diwrnod ac mae pecynnau priodas ar gael ar eich cais.

Mae’r pedwarawd yn hapus i chwarae y tu allan a’r unig bethau y byddai eu hangen arnom yw pedair cadair a chysgod digonol rhag y tywydd, i’n hamddiffyn ni a’n hofferynnau.